Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Gymunedau Gwledig Creadigol, tîm Adfywio Gwledig Cyngor Bro Morgannwg. Bydd canlyniadau’r arolwg yn ein helpu i siapio’r gefnogaeth gaiff ei chynnig, a phrojectau’r dyfodol i gefnogi cynhyrchwyr bwyd yn yr ardal.
Ni chaiff y wybodaeth a rannwch amdanoch chi a’ch busnes ei rannu ag unrhyw drydydd parti na’i wneud yn gyhoeddus, fodd bynnag bydd casgliad y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiadau. Os oes unrhyw bryderon gennych am eich data, cysylltwch â ni ar 01446 704707 neu e-bostiwch creative@valeofglamorgan.gov.uk