Mae’r Pwyllgor Cyllid wrthi’n casglu barn pobl ar yr hyn y dylid ei gynnwys yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Hoffem glywed gan gymaint â phosibl o leisiau’r sector wrth i ni ddrafftio ein hymateb i’r ymgynghoriad hwn. A allwch chi ateb cymaint ag y dymunwch o’r cwestiynau canlynol? Dylai’r arolwg gymryd 10 i 15 munud i’w gwblhau yn llawn

Bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried i’w gynnwys yn ein hymateb i’r ymgynghoriad. Os ydych chi’n hapus i’ch enw chi neu enw eich mudiad gael ei nodi o fewn ein hymateb, gadewch eich manylion isod. Ni fydd y manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata. Os na fyddwch chi’n nodi’r manylion hyn, bydd eich adborth yn cael ei adael yn ddienw.


Gofynnir am eich cyfeiriad e-bost rhag ofn y bydd gennym unrhyw gwestiynau dilynol, ond nid oes rhaid i chi ei roi.

Cwblhewch yr arolwg hwn erbyn dydd Mawrth 3 Tachwedd 2020. Anfonwch e-bost at David Cook ar dcook@wcva.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Question Title

* 1. Enw

Question Title

* 2. Mudiad

Question Title

* 3. Cyfeiriad e-bost

Question Title

* 4. Rwy’n ateb yr arolwg hwn

Question Title

* 5. Beth oedd effaith cyllideb 2020-21 Llywodraeth Cymru ar eich mudiad?

Question Title

* 6. Beth yw eich barn chi ar effaith gweithgareddau cyllido Covid-19 Llywodraeth Cymru?

Question Title

* 7. Sut dylai Llywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau ar gyfer 2021-22 er mwyn ymateb i’r pandemig?

Question Title

* 8. Pa mor barod yw eich mudiad yn ariannol ar gyfer 2021-22? Eglurwch eich ateb.

Question Title

* 9. Sut gallai Cyllideb y flwyddyn nesaf roi mwy o sicrwydd i’ch mudiad?

Question Title

* 10. A ddylid gwneud newidiadau i’r broses gyllidebu a chraffu er mwyn gwneud cyllidebu’n fwy tryloyw a Gweinidogion yn fwy atebol?

Question Title

* 11. A yw’n amlwg sut mae tystiolaeth yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn y broses gyllidebu?

Question Title

* 12. A yw’r Fframwaith Cyllidol yn rhoi darlun cywir o effaith Covid-19 ar Gymru o’i chymharu â gwledydd eraill?

Question Title

* 13. A ydych chi o blaid cynyddu’r terfynau benthyca cyfredol yng Nghymru er mwyn cynorthwyo â’r gwaith o oresgyn ac adfer o’r pandemig?

Question Title

* 14. Sut dylai adnoddau dargedu adferiad economaidd a beth ddylid ei flaenoriaethu?

Question Title

* 15. A ddylid blaenoriaethu’r newid yn yr hinsawdd wrth gefnogi adferiad economaidd – os felly, sut?

Question Title

* 16. A ddylid blaenoriaethu gwario ataliol – os felly, sut?

Question Title

* 17. Sut dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethiant a benthyca?

Question Title

* 18. A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar sut gallai’r Gyllideb wneud y canlynol …

Diolch am gwblhau’r arolwg hwn.

T