Ymgynghoriad ynghylch enw CIB (Sefydliad y Deillion Caerdydd)
Rhagair i’r arolwg.
Rydyn ni (Sefydliad y Deillion Caerdydd) yn ymgynghori â’n defnyddwyr gwasanaeth a’n partneriaid ynghylch y posibilrwydd o newid ein henw. Rydyn ni’n teimlo bod ein henw yn ein rhwystro’n gynyddol rhag cefnogi rhagor o bobl a denu incwm sydd ei angen yn ddirfawr i gyflwyno gwasanaethau.
Mae mwy a mwy o bobl rydyn ni’n siarad â nhw’n dweud nad ydyn nhw am gael ein cymorth neu nad ydyn nhw o’r farn eu bod yn gymwys i dderbyn ein cymorth oherwydd eu tybiaeth mai pobl nad oes ganddyn nhw unrhyw olwg o gwbl yw’r unig bobl rydyn ni’n eu helpu.
Mae’r gair ‘Sefydliad’ yn ein henw yn annifyr i bobl, a thybir ein bod yn cyflogi pobl ddall ac â golwg rhannol i greu cynnyrch fel basgedi gwiail neu’n eu rhoi i fyw mewn uned ddiogel.
Rydyn ni’n gweithio ar draws De Cymru ac felly nid yw’r gair ‘Caerdydd’ yn ein henw yn gywir mewn gwirionedd ac mae hynny’n peri dryswch pan fyddwn ni am gyflwyno gwasanaethau a chytuno ar gontractau gwasanaeth a chyllid.
Ar hyn o bryd mae’n rhaid i ni ddefnyddio enw RNIB mewn lleoedd fel Abertawe a Rhondda Cynon Taf oherwydd contractau ac er ein bod yn elusen gysylltiol i RNIB, nid dyna yw enw ein helusen ac nid yw’n teimlo’n glir nac yn dryloyw.
Rydyn ni’n credu y byddai cost newid ein henw yn fach ac y bydden ni’n cael mwy o incwm gydag enw modern a mwy perthnasol.
Rydyn ni’n gwybod bod newid ein henw yn benderfyniad o bwys a byddwn ni ond yn ei newid os ydyn ni’n sicr taw dyma’r peth cywir i’w wneud ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol.
Gan gofio hynny, hoffen ni gael eich help i benderfynu a ddylen ni newid ein henw a pha enw fyddai’n rhoi’r effaith fwyaf bosibl i ni.
Dylai’r cwestiynau canlynol gymryd rhyw 15 munud i’w cwblhau. Rhowch wybod i ni os hoffech gwblhau’r holiadur yn Saesneg neu ar ffurf benodol.