Ymgynghoriad

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio sylwadau mewn perthynas â Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-2023.

Cyd-destun

Mae’r Strategaeth hon yn gosod sut bydd y Cyngor, drwy weithio mewn cydweithrediad gyda sefydliadau partner eraill, yn mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol.  

Mae’r Strategaeth yn gosod sefyllfa cyfredol y  Gymraeg ac agweddau demograffig yng Ngheredigion.  Yn ystod yr ugeinfed ganrif, bu dirywiad parhaus yn nifer a chryfder cymunedau ledled y sir sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg fel eu prif fodd o gyfathrebu. Mae nifer o ffactorau a wnaeth gyfrannu at y dirywiad ieithyddol, ac mae’r rhain yn parhau i fod yn heriau  sy’n berthnasol i sefyllfa'r Gymraeg yng Ngheredigion heddiw:-
  • Teuluoedd ddim yn trosglwyddo’r iaith
  • Diffyg cyfleoedd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg, hyn  yn effeithio ar hyder unigolion yn eu gallu a’u sgiliau
  • Allfudo pobl ifanc
  • Diffyg cyfleoedd gwaith yn lleol
  • Statws isel y Gymraeg fel iaith busnes
  • Diffyg argaeledd tai a thai fforddiadwy
  • Symudoledd demograffeg
Ym maes Polisi a Chynllunio Ieithoedd, cydnabyddir bod  cynaliadwyedd yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar y broses o gryfhau cymunedau Cymraeg, a hynny trwy ddarparu digon o gyfleoedd addysgol, diwylliannol a chymdeithasol i ddefnyddio’r iaith o ddydd  i ddydd.  Drwy greu’r amgylchiadau cywir, bryd hynny y mae modd sefydlu dwyieithrwydd gwirioneddol.  Felly, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y Gymraeg yng Ngheredigion, mae angen cyfuniad o dair amod:

   Y gallu i ddefnyddio’r  iaith
   Y cyfleoedd i’w defnyddio
   Yr awydd i’w defnyddio

Nod y strategaeth hon fydd cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd posib ar fywyd, ynghyd ȃ dangos ffyrdd ar gyfer grymuso rhwydweithiau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg mewn ardal ddwyieithog.  Nid yw’r Strategaeth hon yn medru cynnwys yr holl bethau sydd angen ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yng Ngheredigion; fodd bynnag, y nod yw bod mor realistig â phosib, yn unol ȃ’r hyn sydd o fewn maes ein dylanwad fel Fforwm Iaith Dyfodol Dwyieithog Ceredigion. 

Darllenwch  Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-2023, ac yna rhowch eich sylwadau ar y ffurflen adborth hwn.    Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, a bydd eich  sylwadau yn cael eu hystyried wrth gyhoeddi’r Strategaeth derfynol. 

Ffurflen Adborth

Question Title

* Cwestiwn 1:

Ein Gweledigaeth:  Yr hyn a garem yw Ceredigion wirioneddol ddwyieithog, felly mae’r Strategaeth yn ceisio crynhoi’r canlyniadau a geisir yng Ngheredigion dros y blynyddoedd nesaf sef:
  • statws cadarn i'r iaith Gymraeg gyda defnydd ohoni ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus yn y sir,
  • bri yn cael ei roi ar y Gymraeg ar draws y sir - yn addysgol, yn economaidd ac yn gymdeithasol,
  • cyfleoedd niferus i bobl o bob oedran allu dysgu Cymraeg yn ogystal â threfniadau dibynadwy i'w cymhathu i rwydweithiau Cymraeg o'u dewis,
  • cymunedau Cymreig hyfyw lle mae'r Gymraeg yn iaith gyfathrebu naturiol
  • gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bawb yn Gymraeg neu'n ddwyieithog heb rwystr,
  • trigolion y sir, o bob cefndir, yn cael y cyfle i ddathlu’r Gymraeg, trwy gymryd rhan a chyfrannu at dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Ceredigion.
Ydych chi’n cytuno gyda’r weledigaeth gyffredinol a nodir uchod?

Question Title

* Cwestiwn 2:

Er mwyn cyfrannu tuag at y weledigaeth mae Strategaeth Iaith Ceredigion wedi adnabod tri  maes strategol.  Mae’r nodau strategol  hyn wedi’u llunio fel eu bod yn cydgordio gyda meysydd strategol Llywodraeth Cymru yn Strategaeth y Gymraeg 2050 Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.  Hyn er mwyn sicrhau rhaeadru strategol o’r lefel uchaf i’r lefel lleol.  

Nod Strategol 1.       Cynyddu sgiliau iaith trigolion Ceredigion
Nod Strategol 2.       Cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng Ngheredigion
Nod Strategol 3.       Sicrhau amodau cymdeithasol sy’n galluogi’r Gymraeg yng Ngheredigion.

Ydych chi’n cytuno gyda’r 3 nod strategol uchod?

Question Title

* Ar gyfer pob un o'r 3 nod strategol rydym wedi adnabod meysydd blaenoriaeth, er mwyn cyflawni’r nod hwnnw.

Cwestiwn 3:

Nod strategol 1: Cynyddu sgiliau iaith Gymraeg trigolion Ceredigion.

Meysydd Blaenoriaeth:

1.1         Sicrhau bod cenedlaethau newydd yn caffael sgiliau Cymraeg sylfaenol ar y cyfle cyntaf.
1.2         Sicrhau bod myfyrwyr 3-19 oed yn caffael ac yn datblygu eu medrau Cymraeg yn ystod eu gyrfa addysgol.
1.3         Sicrhau cyfleoedd digonol i oedolion gaffael a datblygu eu sgiliau Cymraeg: yn y gweithle ac yn y gymuned.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut byddwn yn mynd i’r afael ȃ hyn ewch i dudalennau 20-21 o’r Strategaeth.

Ydych chi’n cytuno gyda’r meysydd blaenoriaeth sydd wedi’u hamlinellu uchod ?

Question Title

* Cwestiwn 4:

Nod strategol 2: Cynyddu’r cyfleodd i ddefnyddio’r Gymraeg yng Ngheredigion, mewn amrywiol gyd-destunau.

Meysydd Blaenoriaeth:

2.1       Cynnal a chynyddu’r defnydd o Gymraeg ar lefel gymunedol.
2.2       Cynnal a chynyddu’r defnydd o Gymraeg wrth ddarparu a derbyn gwasanaethau cyhoeddus.
2.3       Cynnal a chynyddu’r defnydd o Gymraeg mewn gweithleoedd

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut byddwn yn mynd i’r afael ȃ hyn ewch i dudalennau 23-25 o’r Strategaeth.

Ydych chi’n cytuno gyda’r meysydd blaenoriaeth sydd wedi’u hamlinellu uchod ?

Question Title

* Cwestiwn 5:

Nod strategol 3: sicrhau amodau cymdeithasol sy’n galluogi’r Gymraeg i ffynnu yng Ngheredigion

Meysydd Blaenoriaeth:

3.1       Cynnal statws a bri’r Gymraeg o fewn y gymdeithas, gan hyrwyddo ei gwerth a’r defnydd ohoni.
3.2       Sicrhau economi ffyniannus sy’n rhoi gwerth ar y Gymraeg ac ar sgiliau Cymraeg y gweithlu.
3.3       Sicrhau cymunedau cynaliadwy lle y defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu arferol.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut byddwn yn mynd i’r afael ȃ hyn ewch i dudalennau 27-29 o’r Strategaeth.

Ydych chi’n cytuno gyda’r meysydd blaenoriaeth sydd wedi’u hamlinellu uchod ?

Question Title

* Cwestiwn 6:

Os oes gyda chi unrhyw sylwadau ychwanegol neu gyffredinol am y  Strategaeth, gallwch eu nodi isod:

Question Title

* Cwestiwn 7:

A oes yna rȏl i chi eich hun neu eich sefydliad wrth geisio cyflawni’r weledigaeth yn y Strategaeth?

Question Title

* Cwestiwn 8:

Nodwch ar ran pwy ydych chi’n cwblhau’r holiadur:

T