Mae Amcanion Cydraddoldeb drafft Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn nodi ein bwriad ar gyfer ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys pum cynnig Amcan Cydraddoldeb ynghylch sut yr ydym yn bwriadu ymgysylltu â'n cymunedau lleol o ran amrywiaeth o feysydd i wella'r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau; sicrhau bod yr wybodaeth a luniwn yn hygyrch; a chael ein hystyried yn gyflogwr o ddewis ym mhob sector o'n cymunedau.

Hoffem i chi ddweud wrthym a ydych yn meddwl ein bod yn canolbwyntio ar y meysydd gwaith cywir, pa rai o'r meysydd hyn sydd bwysicaf yn eich barn chi, ac a oes unrhyw fylchau sylweddol. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol llawn.

Bydd ein hymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 07 Hydref 2019 a dydd Gwener 6 Rhagfyr 2019.

Os hoffech gael yr holiadur hwn mewn iaith neu fformat gwahanol, cysylltwch â Mrs Alison Thomas ar al.thomas@mawwfire.gov.uk neu ar 01267 226839.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth?

http://www.mawwfire.gov.uk/English/About/Access-to-Information/Pages/Privacy-Notices.aspx

T