Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gynlluniau cyffrous i ailddatblygu pont gludo eiconig Casnewydd fel y gall hyd yn oed fwy o bobl fwynhau croesi’r Bont ar lwybr cerdded uchel a’r Gondola.

Rydym am wneud cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gadw’r Bont ar gyfer y dyfodol ond hefyd i adeiladu Canolfan Groeso newydd lle y gall ymwelwyr ddysgu mwy am hanes diddorol y Bont. Hefyd bydd arwyddion a thirweddu gwell o gwmpas y Bont a rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ysgolion, pobl leol ac ymwelwyr â Chasnewydd.

I’n helpu gyda’n cynlluniau, cwblhewch yr holiadur hwn a rhoi eich barn. Does dim ots os nad ydych erioed wedi croesi’r Bont, hoffwn ni wybod barn pawb. Bydd yn cymryd tua 8 -10 munud i gwblhau’r arolwg.

I ddiolch i chi am eich amser, caiff pawb sy’n cwblhau’r arolwg gyfle i ennill taleb siopa gwerth £50.

T