Cymhwyster Bagloriaeth Cymru - Sefydliadau Addysg Uwch |
Rydym ni, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych ar fanteision ac anfanteision y cymhwyster ac yn awyddus i glywed gan sefydliadau addysg uwch am eich barn ar y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru* wrth ystyried ceisiadau ar gyfer eich cyrsiau.
English version
Dylai'r holiadur gymryd tua 5-10 munud i'w gwblhau.
English version
Dylai'r holiadur gymryd tua 5-10 munud i'w gwblhau.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut bydd y wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio, darllenwch ein Nodyn at breifatrwydd.
Diolch
Bydd yr arolwg yn cau am 5pm ddydd Iau 20 Medi.
Mae'r arolwg hwn ar gyfer sefydliadau addysg uwch.
Fodd bynnag, os ydych chi:
Diolch
Bydd yr arolwg yn cau am 5pm ddydd Iau 20 Medi.
Mae'r arolwg hwn ar gyfer sefydliadau addysg uwch.
Fodd bynnag, os ydych chi:
- yn astudio Bagloriaeth Cymru neu â phlentyn sy'n astudio'r cymhwyster, rydym wedi llunio arolwg gwahanol y gallwch ei gwblhau yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/BagloriaethCymru
- yn gweithio yn y sector addysg (ysgol uwchradd, coleg), cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am y digwyddiadau grwpiau trafod yr ydym yn eu trefnu yn nhymor yr hydref: sally.jones11@assembly.wales
- yn gyflogwr, gallwch gyfrannu at ein trafodaeth ar-lein: https://senedd.dialogue-app.com/welsh-baccalaureate-qualification
*Dyfarniad yw Cymhwyster Bagloriaeth Cymru sy'n cynnwys cyfuniad o gymwysterau gan gynnwys:
- y Dystysgrif Her Sgiliau - cymhwyster yn seiliedig ar sgiliau sy'n galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau ar gyfer addysg, cyflogaeth a bywyd;
- dewis o gymwysterau ategol o faint a lefel penodol (fel TGAU, Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol);
- TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith a Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
Fe'i dyfernir ar dair lefel:
- Bagloriaeth Cymru Sylfaen (lefel 1), a ddyfernir yng nghyfnod allweddol 4 neu at ôl 16 oed;
- Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol (lefel 2), a ddyfernir yng nghyfnod allweddol 4 neu at ôl 16 oed;
- Bagloriaeth Uwch Cymru (lefel 3) a ddefnyddir ar ôl 16 oed yn unig.