Hoffem glywed gan gynifer o leisiau’r sector â phosibl wrth i ni lunio ein hymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn bwysig o ran dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol terfynol Llywodraeth Cymru.
I helpu, rydyn ni wedi llunio’r arolwg isod. Gallwch chi ateb cynifer o gwestiynau ag yr dymunech chi. Dylai gymryd tua 15 munud i lenwi’r arolwg yn ei gyfanrwydd.
Caiff pob adborth a roddir ei ystyried i’w gynnwys yn ein hymateb i’r ymgynghoriad. Os ydych chi’n hapus i ni gyfeirio at eich mudiad yn ein hymateb, rhowch eich manylion isod. Ni fydd hyn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion marchnata. Os nad ydych chi’n rhoi’r manylion hyn, bydd yr adborth sy’n cael ei gynnwys yn ddienw.
Gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost pe hoffem ofyn cwestiynau dilynol i chi, fodd bynnag, nid oes yn rhaid i chi ei roi.
Llenwch yr arolwg hwn erbyn 5ed Tachwedd 2021. E-bostiwch David Cook, Swyddog Polisi CGGC yn dcook@wcva.cymru os oes gennych chi gwestiynau.