Screen Reader Mode Icon
Gwnaeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd gyhoeddi eu hadroddiad yn ddiweddar ar effaith pandemig COVID-19 ar y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan wneud nifer o argymhellion.

Mae 20 o argymhellion i gyd, sy’n ymwneud â chyllid, gweithio mewn partneriaeth, gwirfoddoli a mwy.

O’r 20 o argymhellion hyn, hoffai CGGC a rhwydwaith iechyd, gofal cymdeithasol a lles y sector gwirfoddol wybod pa rai penodol y mae’r sector yn awyddus i weithio arnynt gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai. Gallai hyn gael effaith enfawr ar sut bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r sector ar yr adferiad o’r pandemig.

Edrychwch ar y rhestr o argymhellion yma ac yna atebwch y cwestiynau canlynol. Dylai gymryd oddeutu pum munud. Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 10 Mai 2021.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Cook, Swyddog Polisi CGGC, yn dcook@wcva.cymru.

Question Title

* 1. Rhestrwch, yn nhrefn hoffter, bum argymhelliad gan y Pwyllgor y credwch y dylai’r sector a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd arnynt fel blaenoriaeth.

(Wrth restru, defnyddiwch y llythrennau o flaen pob argymhelliad, e.e. 1a, 2b, ac ati)

Question Title

* 2. Os hoffech chi wneud unrhyw sylwadau eraill ar yr adroddiad a/neu ei argymhellion, gwnewch hynny yma.

Question Title

* 3. Mae’r cwestiynau canlynol yn opsiynol. Mae’n bosibl y byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi am ragor o fanylion ar eich ymatebion.

Enw

Question Title

* 4. Mudiad

Question Title

* 5. Cyfeiriad e-bost

Diolch am gwblhau’r arolwg hwn.
0 of 5 answered
 

T