Cyflwyniad

Hoffem wybod mwy am y bobl sydd wedi darganfod ein hadnoddau addysgol rhad ac am ddim ar wefan OpenLearn Y Brifysgol Agored. Nod yr arolwg yw ein helpu i wella yr hyn a gynigwn  a rhannu ein canfyddiadau i helpu eraill. Trwy ateb cwestiynau’r arolwg, rydych chi’n cytuno y gallwn ddefnyddio eich data dienw at ddibenion ymchwil a lledaenu. Caiff yr holl atebion a ddarparwch i’r cwestiynau eu dal yn ddiogel. Mae ein polisi diogelu data yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data y DU.

Mae’r arolwg hwn yn defnyddio SurveyMonkey, a bydd unrhyw wybodaeth a gofnodwch yn cael ei storio yn Unol Daleithiau America, o dan drefniant PrivacyShield. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym ni’n prosesu data personol.

Dylai’r arolwg gymeryd tua 5 munud i’w gwblhau ac mae cwestiynau sydd â seren (*) wrth eu hymyl angen eu hateb  Gallwch roi’r gorau i ateb yr arolwg unrhyw bryd trwy gau eich porwr. Bydd eich atebion yn gwbl ddienw a caiff unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei darparu ei storio’n ddiogel ac ni chaiff ei rhyddhau i unrhyw drydydd parti. Ni fydd yn bosibl adnabod unrhyw unigolyn o unrhyw adroddiad a gyhoeddir o ganlyniadau’r astudiaeth hon. Byddwn yn trin yr holl ddata a gasglwn o’r arolwg hwn yn gyfrinachol.

Mae ateb cwestiynau yn yr arolwg sy’n dilyn yn dangos eich bod wedi darllen a deall y wybodaeth uchod a’ch bod, trwy wneud hynny, yn cytuno i fod yn rhan o’r ymchwil hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth hon, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at openlearn@open.ac.uk. Gwerthfawrogwn eich cyfranogiad yn fawr.

T