Cyflwyniad

Gan fod eich cwrs wedi dod i ben erbyn hyn, bydd yr arolwg hwn yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym am eich profiad o’i astudio a beth rydych chi’n bwriadu ei wneud nesaf. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynnig profiadau ar-lein gwell i’n holl ddysgwyr ac i rannu ein canfyddiadau gydag eraill. Trwy ateb cwestiynau’r arolwg, rydych chi’n cytuno y gallwn ddefnyddio eich data dienw at ddibenion ymchwil a lledaenu. . Caiff yr holl atebion a ddarparwch i’r cwestiynau eu dal yn ddiogel.. Mae ein polisi diogelu data yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data y DU.

Mae’r arolwg hwn yn defnyddio SurveyMonkey, a bydd unrhyw wybodaeth a gofnodwch yn cael ei storio yn Unol Daleithiau America, o dan drefniant PrivacyShield. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym ni’n prosesu data personol.

Dylai’r arolwg gymeryd tua 10 munud i’w gwblhau ac mae cwestiynau sydd â seren (*) wrth eu hymyl angen eu hateb . Gallwch roi’r gorau i ateb yr arolwg unrhyw bryd trwy gau eich porwr. Bydd eich atebion yn gwbl ddienw a bydd unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn cael ei storio’n ddiogel ac ni chaiff ei rhyddhau i unrhyw drydydd parti. Ni fydd yn bosibl adnabod unrhyw unigolyn o unrhyw adroddiad cyhoeddedig o ganlyniadau’r astudiaeth hon. Byddwn yn trin yr holl ddata a gasglwn o’r arolwg hwn yn gyfrinachol.

Mae ateb cwestiynau yn yr arolwg sy’n dilyn yn dangos eich bod wedi darllen a deall y wybodaeth uchod a’ch bod, trwy wneud hynny, yn cytuno i fod yn rhan o’r ymchwil hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth hon, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at openlearn@open.ac.uk. Rhowch ‘Arolwg Cwrs OpenLearn’ yn llinell y pwnc. Gwerthfawrogwn eich cyfranogiad yn fawr.

T