Ffurflen Gais Tiwtor Rhan-Amser

Byddwch yn ymwybodol y bydd gofyn i chi gwblhau'r ffurflen ganlynol mewn un eisteddiad. Bydd angen gwybodaeth arnoch fel eich hanes swydd a chymwysterau wrth law.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogaeth ar gael ar dudalen ‘Swyddi’ y wefan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn: https://www.adultlearning.wales/cym/amdanom/swyddi

Os nad oes swyddi gwag ar yr adeg a gyflwynoch eich cais, hoffem gadw'ch data ar ein rhestr darpar diwtoriaid am ddeuddeg mis. Os na fydd swyddi gwag yn codi yn ystod yr amser hwn, byddwn yn dileu eich cais ac yn tynnu eich data o'n rhestr darpar diwtoriaid ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os nad ydych yn fodlon â hyn, rhowch wybod i ni ar unrhyw adeg a byddwn yn dileu eich gwybodaeth.

T