Pam mae angen eich barn arnom ni

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu fframweithiau prentisiaeth ar Lefelau 4 a 5 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

Rydym wedi cwblhau ein gwaith ymgysylltu cychwynnol, ac wedi llunio drafft cyntaf ein dogfen ymgynghori. Hoffem gael amrywiaeth o safbwyntiau o bob rhan o'r sectorau, ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn safbwyntiau darparwyr dysgu a phobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Mae manylion pob llwybr yn y fframwaith prentisiaeth wedi cael eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori hon er hwylustod, ac i'ch helpu i baratoi’ch ymatebion cyn llenwi'r holiadur ar-lein. Ni ddylai’r holiadur gcymryd mwy na 15- i 20 munud i’w lenwi.

Bydd eich safbwyntiau’n cael eu defnyddio fel sail i’r fframwaith terfynol a fydd ar gael ym mis Medi 2020.

Os hoffech chi gymryd rhan, darllenwch y ddogfen ymgynghori hon, a llenwch yr holiadur erbyn hanner nos ar 5 Gorffennaf 2020.

Rhannwch y ddogfen hon gyda chydweithwyr sydd â diddordeb. Os oes angen copi arnoch chi mewn fformat gwahanol neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar ymgynghoriadau@gofalcymdeithasol.cymru.

Diolch i chi am ddweud wrthym beth yw eich barn chi.

T