Screen Reader Mode Icon

Welcome to Tir Coed's Questionnaire

Mae Tir Coed yn elusen sy’n ymgysylltu pobl gyda thir a choetiroedd drwy hyfforddi, gwirfoddoli, mentora a gweithgareddau pwrpasol sy’n datblygu sgiliau, gwella lles ac ardaloedd awyr agored er budd pawb. Ein nod yw datgloi potensial tir a choetiroedd ar gyfer darparu adnoddau cymunedol tu allan, gweithgareddau addysgiadol ac iechyd a chyfleoedd swyddi ar gyfer pobl ddifreintiedig yng nghefn gwlad Cymru: rydym ni’n taclo anghyfartaledd iechyd a chyfoeth ynghyd â’r argyfwng Natur a Amgylchedd.

Pwrpas tu ôl i’r holiadur hyn yw canfod anghenion sgiliau sefydliadau amaethyddol, garddwriaethol, cyhoeddus, preifat a chymunedol yng Ngheredigion yn y dyfodol, yn ogystal â busnesau gwledig a grwpiau cymunedol sy’n rheoli ardaloedd o dir. Ynghyd ag anghenion sgiliau, rydym ni’n bwriadu adnabod bylchau yn yr hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer newydd-ddyfodiaid i arddwriaeth, amaethyddiaeth a diwydiannau sydd wedi’u seilio ar dir arall yng Ngheredigion. O’r wybodaeth yr ydych chi’n darparu, gallwn sicrhau bod ein cyrsiau hyfforddiant sydd wedi’u seilio ar dir yn darparu’r sgiliau angenrheidiol sydd angen arnoch chi oddi wrthynt.  Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn, mewn amser, yn helpu cadw pobl ifanc yn yr ardal, llanw swyddi gwag lleol gyda phobl leol, a chadw ein sgiliau gwledig yn fyw.   Ochr yn ochr â’n cyrsiau hyfforddiant rydym yn sefydlu Banc Tir a Llafur. Bydd hwn yn fas data ar gyfer cyflogwyr lleol a phrosiectau cymunedol a all o bosib cynnig gwaith, lleoliadau gwaith neugyfleoedd gwirfoddoli i newydd-ddyfodiaid. Rydym ni’n rhagweld y bydd hwn o fudd i fusnesau lleol ynghyd â hyfforddai; rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda os hoffwch chi ychwanegu eich manylion. 
 
Tir Coed is a charity that engages people with land and woodlands through training, volunteering, mentoring and bespoke activities which develop skills, increase well-being and improve outdoor spaces for the benefit of all.  Our mission is to unlock the potential of land and woodlands for delivering outdoor community facilities, educational and health activities and job opportunities for disadvantaged people in rural Wales: we tackle health and wealth inequalities together with the crises in Nature and the Environment. 
 
The purpose behind this questionnaire is to ascertain the future skills needs of agricultural, horticultural, public, private and community land management sector organisations in Ceredigion, and of other rural businesses and community groups managing areas of land. Together with skills needs we aim to identify gaps in available training for new entrants into horticulture, agriculture, and other land-based rural industries in Ceredigion. From the information you give us, we can ensure our land-based training courses provide trainees with the skills you require of them.  We hope that this will, in turn,  help to keep young people in the area, fill local vacancies with local people, and keep our rural skills alive. Alongside our training courses we are setting up a Land and Labour Bank. This will be a database of local employers and community projects that may be able to offer work, placements, or volunteering opportunities to new entrants. We anticipate this will benefit local businesses as well as trainees; please let us know if you would like your details to be added.
0 of 14 answered
 

T