Taflen wybodaeth - Holiadur Prosiect 360°

Gair am Brosiect 360°

Mae Prosiect 360° yn brosiect partneriaeth rhwng: Age Cymru, yr elusen fwyaf sy’n gweithio gyda ac er budd pobl hŷn yng Nghymru; Woody’s Lodge, yr elusen i gyn-filwyr; a Chynghrair Henoed Cymru, sef cynghrair o 23 o elusennau cenedlaethol sy’n cydweithio i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru. Nod y prosiect yw gwella gwasanaethau i gyn-filwyr hŷn yng Nghymru, gan roi lle canolog i gyn-filwyr yn y broses. Ariennir gan Gronfa Cyn-Filwyr Oedrannus drwy arian LIBOR.

Yn ein hymchwil cychwynnol â chyn-filwyr yng Nghymru gwelsom fod traean o'r bobl a siaradom â nhw yn gofalu am rywun fel gofalwyr di-dâl. Gwnaeth hyn i ni fod eisiau deall mewn mwy o fanylder beth sy'n effeithio ar fywydau bob dydd y cyn-filwyr hyn, beth sy'n eu helpu yn eu rôl fel gofalwyr di-dâl, a pha gymorth a all fod ei angen arnynt ond nad ydynt yn ei gael ar hyn o bryd a all eu helpu i gyflawni eu rôl.

Beth yw gofalwr di-dâl?

Rhywun sy'n gofalu, neu sy'n rhoi unrhyw gymorth, neu gefnogaeth i aelodau o'r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill oherwydd afiechyd corfforol neu feddyliol hirdymor, neu anabledd, neu broblemau sy'n ymwneud â heneiddio yw gofalwr di-dâl.

 Beth yw cyn-filwr?

Rhywun sydd wedi gwasanaethu yn un o luoedd arfog y DU am un diwrnod neu fwy, gan gynnwys gwasanaeth cenedlaethol, milwyr wrth gefn neu forwr masnachol a fu ar weithrediad milwrol.

 Sut allwch chi ein helpu ni

Os ydych yn ofalwr di-dâl ac yn gyn-filwr sy'n 65 oed neu hŷn;

Neu os ydych yn ofalwr di-dâl sy'n gofalu am gyn-filwr sy'n 65 oed neu hŷn; byddem yn gwerthfawrogi pe baech chi'n gallu cwblhau'r holiadur hwn.

 Bydd hyn yn ein helpu i ddarganfod pa wasanaethau cymorth fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cyn-filwyr hŷn sy'n ofalwyr di-dâl, a'r gofalwyr di-dâl hynny sy'n gofalu am gyn-filwyr hŷn sy'n byw yng Nghymru.

Bydd y prosiect yna’n defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd er mwyn gwella gwasanaethau i gyn-filwyr hŷn ledled Cymru drwy bartneriaid y prosiect.

Nid yw’r prosiect yn cymryd unrhyw atgyfeiriadau na chwaith yn cyfeirio pobl yn uniongyrchol at sefydliadau mewn ymateb i’r wybodaeth a gesglir. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cysylltu â rhywun am gymorth ar ôl cwblhau’r holiadur hwn, ffoniwch linell gymorth Age Cymru ar 08000 223 444. Gallant roi cymorth diduedd yn rhad ac am ddim i bobl dros 50 oed, eu teuluoedd a’u ffrindiau o bob rhan o Gymru ar ystod o bynciau.

Manylion personol

Diolch am gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i Brosiect 360° yn fawr iawn. Fe welwch fod yr holiadur yn gofyn am eich enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac a wnaethoch wasanaethu yn y Fyddin, y Llynges Frenhinol neu’r Awyrlu Brenhinol. Rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn darparu’r manylion hyn ac yn addo na fyddant yn cael eu rhannu’n gyhoeddus ag unrhyw un. Os ydych yn hapus i siarad â staff ein prosiect yn y dyfodol, ticiwch y blwch i ddangos y cawn gysylltu â chi, a rhowch eich manylion cyswllt.

Os yw’n well gennych ateb heb roi eich manylion, mae hynny’n berffaith iawn hefyd, ond byddem yn hoffi pe gallech roi eich tref neu’ch cod post a dweud a wnaethoch wasanaethu yn y Fyddin, y Llynges Frenhinol neu’r Awyrlu Brenhinol , gan y bydd hynny’n helpu gyda’n gwaith dadansoddi a chasglu data.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect neu unrhyw beth rydym yn ei ofyn, mae croeso mawr ichi gysylltu â ni.

Gallwch gysylltu â ni yn project360@agecymru.org.uk neu ar 02920 431555

Diolch o galon ymlaen llaw am eich cymorth a’ch cefnogaeth.

T