Beth yw hyn? Mae Cyngor Tref Penmaenmawr yn y broses o ddatblygu 'gweledigaeth' ar gyfer dyfodol Promenâd Penmaenmawr. I wneud hyn, mae angen inni gael gwybod sut mae pobl yn defnyddio’r promenâd, beth fyddai'n annog pobl i’w ddefnyddio’n amlach a pha syniadau sydd gan bobl i’w wella ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr o bob oed.
Beth wnewch chi gyda'r wybodaeth rwy'n ei darparu? Bydd yr wybodaeth a ddarparwch yn cael ei defnyddio i lunio cynllun, sy'n dangos sut y gellid gwella’r promenâd, yn seiliedig ar syniadau pawb a mewnbwn gan beirianwyr dylunio. Defnyddir y cynllun i wneud cais am arian o ffynonellau amrywiol, i ychwanegu at y cronfeydd sydd eisoes wedi’u codi drwy'r Archebiant, a cheisio gwneud y weledigaeth ar gyfer y promenâd yn realiti.
Pam mae angen fy syniadau arnoch chi? Mae’r holiadur ymgynghorol hwn yn rhan bwysig o'r broses. Bydd cyllidwyr am weld bod Cyngor Tref Penmaenmawr wedi ceisio barn y gymuned a datblygu’r cynlluniau sy'n adlewyrchu'r adborth a gawsom gan aelodau'r gymuned. Bydd yr holiadur yn cymryd tua phum munud i'w gwblhau.
Cyfrinachedd a GDPR Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn yr holiadur hwn yn gyfrinachol. Ni ofynnir am eich gwybodaeth bersonol, a rhowch yr wybodaeth hon dim ond os ydych am i ni gysylltu â chi-gallwch ychwanegu eich manylion cyswllt yn y blwch sylwadau olaf ar yr holiadur os yw hyn yn wir. Ni fydd unrhyw sylwadau yn cael eu priodoli i unigolion yn y cynllun a gynhyrchir, ac ni fydd unrhyw ddata a ddarparwch yn cael eu pasio i drydydd partïon.
Dyddiad cau ar gyfer cwblhau Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r holiadur hwn yw: Dydd Llun 29 Hydref 2018
Mae tri opsiwn ar gyfer cwblhau a dychwelyd yr holiadur:
a) Ar-lein drwy’r ddolen hon wedi’i phostio ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Tref Penmaenmawr
b) Mae copïau caled o'r holiadur ar gael mewn mannau cyfarfod amrywiol yn y gymuned, neu gallwch gysylltu â Martin Clerc Cyngor y Dref am gopi
Gall y copïau wedi’u cwblhau o’r holiaduron gael eu dychwelyd i Swyddfa Cyngor Tref Penmaenmawr.
Diolch i chi am roi o'ch amser i lenwi'r holiadur hwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur neu’r prosiect hwn, cysylltwch â Martin Hanks, Clerc Cyngor Tref Penmaenmawr: 01492 621332 clerk@penmaenmawr.org