Rhan Un: Cyflwyniad

Diolch yn fawr i chi am roi o'ch amser i gwblhau'r arolwg hwn ar drwyddedu arfau tanio a drylliau yng Nghymru a Lloegr.

Bu mwy o bryder ymhlith y cyhoedd yn ddiweddar yn dilyn y trychineb yn Plymouth pan gafodd pump o bobl eu saethu gan ddyn a wnaeth wedyn ladd ei hun. Mae'r Swyddfa Gartref wrthi'n adolygu trefniadau ar gyfer trwyddedu gynnau ac yn fuan, bydd yn cyflwyno canllawiau statudol newydd i'r holl heddluoedd eu dilyn.

Cafodd yr arolwg hwn ei greu gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig, sy'n cynrychioli llais y cyhoedd ym maes plismona. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn awyddus i ddeall safbwyntiau'r cyhoedd ac i sicrhau y cânt eu clywed gan y Swyddfa Gartref pan gaiff diwygiadau posibl i'r rheolau a'r prosesau cyfredol o ran trwyddedu arfau yng Nghymru a Lloegr eu hystyried.

Diolch am roi o'ch amser i rannu eich safbwyntiau ar y pwnc pwysig hwn.

Cymerwch eich amser i ddarllen y wybodaeth ganlynol cyn ateb y cwestiynau sy'n dilyn:

Ni ellir defnyddio pob math o wn yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr. Mae rhai arfau, gan gynnwys y rhan fwyaf o fathau o lawddrylliau, wedi'u gwahardd rhag cael eu defnyddio yn y DU.

Mae angen trwydded neu dystysgrif gan yr heddlu ar berson er mwyn iddo allu meddu ar arf tanio neu ddryll yn gyfreithlon a'i ddefnyddio'n gyfreithlon. (Ceir rhai eithriadau cyfreithiol – swyddogion yr heddlu, er enghraifft).

Mae'n bosibl y bydd unigolyn am feddu ar arf a'i ddefnyddio am sawl rheswm. Gallai hyn gynnwys ei broffesiwn – e.e. ffermwyr, milfeddygon, ciperiaid neu bobl sy'n gweithio ym maes rheoli plâu neu fermin – neu mae'n bosibl y bydd am feddu ar arf tanio neu ddryll a'i ddefnyddio at ddibenion hamdden neu chwaraeon eraill fel saethu colomennod clai.

Codir ffi ymgeisio neu adnewyddu gan yr heddlu lleol ar y sawl sy'n gwneud cais am drwydded. Codir ffi o rhwng £79 a £90 am gais cychwynnol ar hyn o bryd. Caiff y ffioedd eu pennu'n genedlaethol ac nid ydynt wedi newid ers 2015. Nid yw'r ffi yn cwmpasu costau llawn yr heddlu wrth weinyddu'r broses ardystio.

Rhaid i ymgeiswyr ymgymryd ag asesiad gan yr heddlu lleol a gynhelir gan gydymffurfio â safonau a chanllawiau cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys cais i feddyg teulu'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth feddygol a dylai hefyd gynnwys cyfweliadau ac ymweliadau â chartrefi. Bydd angen geirdaon hefyd. Ni fydd pob cais yn llwyddiannus, a chafodd tua 3% o geisiadau am dystysgrifau neu drwyddedau newydd eu gwrthod yn 2020/21.

Er mwyn rhoi tystysgrif arf tanio neu ddryll, rhaid i'r heddlu fod yn fodlon ar y canlynol:

(i) bod gan yr ymgeisydd reswm da dros gael yr arf tanio
(ii) y gellir ymddiried yn yr ymgeisydd i gael arf tanio
(iii) na fydd diogelwch y cyhoedd na heddwch cyhoeddus yn y fantol.

Mae trwyddedau a thystysgrifau yn ddilys am bum mlynedd, ac yna rhaid iddynt gael eu hadnewyddu os bydd deiliad y drwydded yn dymuno cadw ei arf/arfau tanio. Gall yr heddlu eu dirymu unrhyw bryd os na fydd y deiliad bellach yn llwyddo i fodloni amodau ei drwydded.

Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf (2020/21), roedd gan dros 565,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr drwydded arfau tanio a/neu dystysgrif dryll.

Roedd ganddynt gyfanswm o 548,000 o dystysgrifau dryll a dros 156,000 o dystysgrifau arfau tanio, gan fod angen y ddwy drwydded ar rai pobl. Roedd 1,996,570 o arfau yn gysylltiedig â'r tystysgrifau hynny. Drylliau na allant ddal mwy na dwy rownd ar y pryd oedd y mwyafrif o'r rheini – sef 1,390,000.

Question Title

* 1. Ticiwch y blwch hwn i gadarnhau eich bod wedi darllen y wybodaeth uchod a'ch bod yn barod i ddechrau'r arolwg.

T