Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu llunio deddf yn erbyn defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru, a hoffant wybod beth yw eich barn chi.
Ar hyn o bryd, nid oes yna syrcasau gydag anifeiliaid gwyllt yng Nghymru, ond maent yn ymweld â'r wlad. Mae dwy syrcas sydd wedi eu cofrestru yn Lloegr yn ymweld â Chymru'n rheolaidd, ac maent yn defnyddio anifeiliaid gan gynnwys sebraod, camelod, sebwod, ceirw, racwniaid, llwynogod a macawiaid, yn ogystal ag anifeiliaid dof eraill. Mae rhai syrcasau o dir mawr Ewrop hefyd yn defnyddio eliffantod, llewod a theigrod.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol erbyn mis Ionawr 2020, ac mae'r Alban eisoes wedi gwneud hynny.
Hoffem ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw eich barn - os hoffech ddweud eich dweud, atebwch y cwestiynau isod erbyn 25 Chwefror 2019.
Os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch ddod o hyd i ymgynghoriad llawn Llywodraeth Cymru ar-lein yn https://bit.ly/2Itk3ml.
Diolch yn fawr!