Arolwg Defnyddwyr Parc Bute 2021 |
Rydym yn falch bod Parc Bute wedi parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu trigolion Caerdydd i fanteisio ar fannau gwyrdd ac agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol drwy gydol pandemig y coronafeirws.
Mae Tîm Rheoli Parc Bute yn cynnal arolwg defnyddwyr bob blwyddyn i fonitro ein perfformiad a'ch boddhad â'r parc. Yn 2018, 2019 a 2020 roedd 98% yn fodlon â’r parc.
Daeth nifer o themâu cyffredin i'r amlwg; yn gyffredinol roedd pobl yn fodlon iawn â'r parc a mynegon nhw pa mor werthfawr oedd y safle iddynt. Roedd ei nodweddion naturiol a'i leoliad yng nghanol y ddinas a safon uchel y gwaith cynnal a chadw a’r glendid yn cael eu gwerthfawrogi'n arbennig.
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn a'ch awgrymiadau ar sut i wneud eich profiad fel ymwelydd hyd yn oed yn well a byddem yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig funudau o'ch amser i ateb rhai cwestiynau y byddwn yn eu defnyddio i lywio a datblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.