Yn gyntaf, diolch am ein helpu ni gyda’r arolwg byr yma.
Rydyn ni eisiau cael barn a sylwadau plant a phobl ifanc am dlodi plant yng Nghymru. Hoffen ni wybod beth wyt ti’n meddwl am effaith tlodi ar blant a phobl ifanc ac os oes gennyt ti unrhyw syniadau am beth allai gael ei wneud i wneud pethau’n well. Rwyt ti’n gallu llenwi’r arolwg yma’n ddi-enw neu roi dy enw i ni os wyt ti’n hoffi.
Am y mwyafrif o’r cwestiynau, byddwn yn gofyn i ti dicio’r blwch sy’n fwyaf addas i dy ateb di.