Sut y gallwn helpu?

Mae'r arolwg hwn yn gofyn i bobl sy'n gofalu am addoldy roi gwybod i Fforwm Addoldai Cymru am eich heriau presennol a'ch heriau yn y dyfodol. Mae'r Fforwm am ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ac arian i addoldai yng Nghymru a datblygu cymorth ymarferol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Chi sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch a beth yr hoffech ei gael. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech roi o'ch amser i leisio eich barn i ni.
                                                                                                                     
Dywedwch wrthym hefyd am addoldy rydych yn hoff iawn ohono fel y gallwn ddod o hyd i hoff eglwysi a chapeli Cymru i'w cynnwys mewn ymgyrch newydd. Dylai gymryd tua 15 munud i gwblhau'r arolwg. Diolch am gymryd rhan!

Sefydlwyd Fforwm Addoldai Cymru yn 2015. Mae'n cynnwys sefydliadau sy'n ymwneud â ffydd a threftadaeth yng Nghymru a sefydliadau eraill lle nad oes sefydliad pwrpasol i Gymru yn bodoli. Ei nod yw nodi'r ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu addoldai yng Nghymru i reoli eu hadeiladau yn haws ac ymgysylltu â'r cyhoedd ehangach.

Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi sy'n trefnu'r arolwg hwn i gefnogi Fforwm Addoldai Cymru. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cefnogi ac yn hyrwyddo adeiladau eglwysig o werth hanesyddol, pensaernïol a chymunedol drwy godi arian a rhoi cyngor a grantiau. Ni yw elusen annibynnol y DU gyfan sy'n cefnogi mwy na 42,000 o eglwysi, capeli a thai cwrdd o bob enwad Cristnogol. Credwn fod addoldai yn rhan annatod o dreftadaeth bensaernïol ein gwlad ac yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddatblygu a chynnal cymunedau lleol.

National Churches Trust
7 Tufton Street
London
SW1P 3QB

Ff +44 (0)20 7222 0605
www.nationalchurchestrust.org
Noddwr: Ei Mawrhydi y Frenhines
Cwmni a gofrestrir yn Lloegr
Rhif cofrestru 6265201
Rhif elusen gofrestredig 1119845

DEDDF DIOGELU DATA 1998
Caiff y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon ei defnyddio at ddibenion cynllunio gwasanaethau cymorth i addoldai a gellir ei defnyddio mewn ceisiadau am gyllid er mwyn ceisio cael mwy o gyllid ar gyfer addoldai. Gellir ei defnyddio at ddibenion hyrwyddo ein gwaith ac ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy'n cefnogi addoldai. Caiff y data cyfanredol a gesglir o'r arolwg hwn eu rhannu â sefydliadau o fewn Fforwm Addoldai Cymru a bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r data ar gael. Bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn storio eich data personol mewn cronfa ddata ddiogel ac ni chânt eu rhannu ag unrhyw drydydd parti.

Os hoffech ddysgu mwy am waith Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi ac os hoffech gofrestru i gael ein e-gylchlythyr am ddim, cliciwch yma.

Question Title

* 1. Manylion cyswllt

Question Title

* 2. Beth yw enw eich eglwys neu gapel?

Question Title

* 4. A yw'r adeilad

Question Title

* 5. Hoffem nodi a dathlu hoff eglwysi a chapeli Cymru. Dywedwch wrthym am eich hoff addoldy (ac eithrio eich addoldy eich hunan). Dywedwch wrthym hefyd mewn un frawddeg pam mai hwn yw eich ffefryn.

T