Cofrestr o Fuddiannau Mentoriaid Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal |
Cofrestr Buddiannau
Diolch i chi am eich diddordeb mewn dod yn fentor gyda Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal.
Mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn rhaglen groestoriadol, draws-gydraddoldebau sy'n ceisio cefnogi a hyrwyddo pobl o grwpiau ymylol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru. Mae gan ein mentoriaid gymaint i'w ddysgu o brofiadau ein mentoreion ag y bydd ein mentoreion yn ei ddysgu o'ch gwybodaeth a'ch profiad chi.
Bydd ein carfan nesaf o fentoreion yn cael ei dewis yn ystod yr haf, ac yna byddwn yn paru pob mentorai â mentor, yn seiliedig ar y maes o ran bywyd gwleidyddol neu gyhoeddus y mae ganddo ddiddordeb mewn datblygu rôl ynddo. Mae'n holl bwysig i lwyddiant Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal fod gennym amrywiaeth eang o fentoriaid ar gael i gefnogi ein carfan. Er mwyn sicrhau'r cyfuniadau gorau, gofynnwn i'n darpar fentoriaid ateb ychydig o gwestiynau. Os bydd gennym rywun a fyddai'n elwa o'ch arbenigedd personol, byddwn yn cysylltu ym mis Medi gyda rhagor o wybodaeth am y rhaglen a manylion eich mentorai.
• Mae angen i'r mentoriaid fod ar gael i gwrdd â'u mentoreion am o leiaf awr, bob 4-6 wythnos, trwy gydol y rhaglen (Medi 2024-Mehefin 2025)
• Anogir mentoreion i greu un neu ddau darged yn ffocws ar gyfer eich amser gyda'ch gilydd
• Darperir canllaw mentora, a chynigir cymorth trwy gydol y cyfnod