Eich profiad o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol gydol pandemig COVID-19 |
1. Croeso i'n harolwg
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd oddeutu 5 munud i'w gwblhau.
Cyflwyniad
Mae’r arolwg hwn yn rhan o adolygiad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd i sut mae gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi bod yn gweithio yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19.
Bydd yr adolygiad hwn yn helpu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall mwy am yr hyn a weithiodd yn dda dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac ym mha feysydd y gellid bod wedi gwella'r gwasanaethau. Bydd hefyd yn ffordd o roi gwybod i Lywodraeth Cymru am beth sy'n bwysig i bobl sy'n cael mynediad i ofal cymdeithasol, yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Hoffem glywed gennych os oes gennych brofiad personol o gael mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig, os ydych yn ofalwr neu os oes aelod agos o'ch teulu wedi cael mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol. Byddai profiad o bob un neu unrhyw un o wasanaeth gofal cymdeithasol yn werthfawr iawn. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- pobl hŷn
- cymorth iechyd meddwl
- pobl ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol
- camddefnyddio alcohol a sylweddau
- atal camdriniaeth neu esgeulustod
- anghenion sy'n ymwneud â thai
- cam-drin domestig
- cymorth i deuluoedd
- amddiffyn plant
- lleoli plant, maethu a mabwysiadu
- troseddwyr ifanc
Mae’r arolwg yn ddienw, ac ni fyddwn yn olrhain ymatebion i unigolion. Os hoffech gael y cyfle i gymryd rhan mewn rhannau pellach o’r adolygiad, gallwch ddarparu eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg. Byddwn ond yn cysylltu â chi ynglŷn â'r prosiect hwn ac ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd partïon.
ADSS Cymru, sydd yn cynnal yr arolwg gyda chefnogaeth Practice Solutions Ltd.