Ffurflen Gais: Ailddyfeisio'r Prif Gymeriad

Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein cwrs ysgrifennu creadigol digidol, Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a fydd yn cael ei gynnal yn ystod gaeaf 2023 – gwanwyn 2024. Bydd y cwrs yn cael ei redeg fel cyfres o 5 gweithdy digidol a sesiynau un-i-un, dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol Kaite O’Reilly. 
 
Cyn i chi gwblhau'r ffurflen gais hon, awgrymwn eich bod yn darllen drwy'r alwad agored ar ein gwefan, ynghyd â'r Cwestiynau Cyffredin a'r Canllawiau. 

I holi am wneud cais drwy fideo, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru. 

Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau wrth gwblhau’r ffurflen ar-lein, neu os oes gennych anabledd neu salwch a allai eich atal rhag wneud cais, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru post@llenyddiaethcymru.org i siarad gydag aelod o staff. 

Os oes angen ffurflen gais dyslecsia-gyfeillgar neu brint bras arnoch, cyfeiriwch at y dogfennau y gellir eu lawrlwytho ar ein gwefan. 

Sylwch na allwn anfon copi o'ch cais atoch ar ôl ei gyflwyno, felly rydym yn argymell eich bod yn cadw copi o'ch atebion mewn dogfen Word. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5:00 pm dydd Llun 2 Hydref 2023. 

T