Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed yma ....
Bob yn ail flwyddyn byddwn yn casglu eich barn am agweddau pwysig ar eich cartref er mwyn i ni, fel pob darparwr tai cymdeithasol arall, allu ein cymharu ein hunain â darparwyr eraill ledled Cymru ac er mwyn i bob un ohonom allu gweld sut hwyl rydym yn ei chael arni. Oherwydd ein bod am ddangos yn glir sut rydym yn perfformio o gymharu â chymdeithasau tai eraill, rhaid i’n cwestiynau ni fod yr un fath â chwestiynau pawb arall. Y llywodraeth sy’n penderfynu ar y cwestiynau. Byddwch yn gallu gweld sut rydym yn perfformio hefyd – bydd y canlyniadau ar gael ar-lein yn 2022. Cofiwch gymryd eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn a chofiwch achub ar y cyfle ar y diwedd i ennill gwobr o £100.