Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.
Holiadur Yswiriant Eglwysi
Cyflwyniad
Corff y Cynrychiolwyr sy'n berchen ar eglwysi'r Eglwys yng Nghymru (ym mhob achos bron). Ar hyn o bryd, mae'r adeiladau a rhwymedigaethau cysylltiedig pob Ardal Genhadaeth/Gweinidogaeth leol wedi'u hyswirio gan Ecclesiastical Insurance yn dilyn ymarfer tendro a gwerthuso sy'n sicrhau bod gennym lefel briodol o yswiriant ar gyfer ein hadeiladau hanesyddol ac arbenigol, a hynny am bris cystadleuol.
Mae'r polisi cyffredinol yn gynllun grŵp lle mae Corff y Cynrychiolwyr a'r corff ymddiriedolwyr lleol yn bartïon sydd wedi'u hyswirio ar y cyd – mae hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. O dan y Cyfansoddiad, mae Corff y Cynrychiolwyr yn trefnu'r polisi yswiriant ac mae pob corff ymddiriedolwyr lleol yn talu cost y premiwm sy'n ddyledus ar gyfer yr adeilad dan sylw. Nid yw neuaddau eglwys ac ysgoldai ac eiddo plwyf arall wedi'u cynnwys yn y cynllun grŵp ac maent wedi'u hyswirio o dan drefniadau gwahanol.
Caiff y cynllun Grŵp ei adolygu'n ffurfiol bob pum mlynedd a chynhaliwyd yr adolygiad diwethaf bedair blynedd yn ôl. Bwriad Corff y Cynrychiolwyr yw cynnal adolygiad ffurfiol o'r polisi yn ystod 2022 i'w weithredu ar ddechrau 2023. Dylid nodi bod y polisi presennol gydag Ecclesiastical am dair blynedd gan ddod i ben ar ddiwedd 2019 ond penderfynodd ymddiriedolwyr Corff y Cynrychiolwyr adnewyddu am flwyddyn arall yn 2021 a 2022. Roedd hyn er mwyn rhoi amser ar gyfer gwerthusiad priodol o'r polisi presennol.
Rydym yn ceisio barn cyrff ymddiriedolwyr lleol (Cynghorau Plwyf Eglwysig, Cynadleddau Ardaloedd Cenhadaeth, Cynghorau Ardal Gweinidogaeth Leol) ar sut mae'r trefniadau yswiriant presennol ar gyfer eglwysi yn gweithio iddynt. Dylai'r holiadur hwn gael ei gwblhau gan y sawl sy'n rheoli yswiriant yr eglwys o fewn eich Gweinidogaeth/Ardal Genhadaeth/Plwyf.
Am ymholiadau ynglŷn â'r arolwg hwn, cysylltwch â propertyenquiries@churchinwales.org.uk