Cyfle i ddweud eich dweud ar ein blaenoriaethau

Rydym yn gofyn i chi ein helpu i wneud yn siŵr y bydd ein hamcanion cydraddoldeb yn ein rhoi ar y trywydd iawn. A ydym yn canolbwyntio ar y pethau cywir? A ydym yn bod yn ddigon mentrus? Beth fydd canlyniadau ein gwaith?

I’n helpu i greu cynllun gweithredu ar gyfer y pum mlynedd nesaf, llenwch yr holiadur isod neu ar-lein.
Diolch i chi am roi o’ch amser i roi gwybod i ni am eich barn chi.

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 5pm, 13 Medi 2021.
To respond in English go to  https://www.surveymonkey.co.uk/r/G9FQ6VD
Amdanoch chi/eich sefydliad

A ydych chi’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn:

Question Title

* 1. fel unigolyn.

Os ydych chi’n ymateb fel unigolyn, a ydych chi’n:

Question Title

* 2. Ar ran sefydliad.
Os ydych chi’n ymateb fel sefydliad, a yw’r sefydliad yn:

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Byddem yn croesawu eich barn ar ein hamcanion cydraddoldeb ac yn ddiolchgar pe gallech roi o’ch amser i ateb y cwestiynau canlynol:

Question Title

* 3. Ydych chi’n cytuno â’n hymagwedd i ymgorffori ein gwaith gwrthwahaniaethol yn ein cynllun corfforaethol, ond amlygu’r pum maes y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ein cynllun cydraddoldeb strategol?

Question Title

* 4. Ydych chi’n credu bod ein pum amcan cydraddoldeb yn gyraeddadwy ar gyfer y pum mlynedd nesaf? A ddylen ni fod yn fwy mentrus neu’n llai uchelgeisiol?

Question Title

* 5. A oes gennych chi unrhyw sylwadau am unrhyw rai o’n hamcanion?

Question Title

* 6. A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am sut y dylem fesur ein heffaith yn y pum maes y byddwn yn canolbwyntio arnynt?

Question Title

* 7. A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am sut y dylem fesur ein heffaith yn y pum maes y byddwn yn canolbwyntio arnynt?

Question Title

* 8. Ydych chi’n credu y dylem fod ag unrhyw amcanion cydraddoldeb     eraill (naill ai yn lle neu’n ogystal â’r rhai a grybwyllwyd)? Os felly, beth ddylent fod?

Question Title

* 9. Pa effeithiau fydd ein cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar:
  1. gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
  2. peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg?
 Sut gallem gynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu leihau’r rhai negyddol?

Sut byddwn yn defnyddio eich safbwyntiau

Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan ein staff sy’n ymdrin â’r materion yn yr ymgynghoriad hwn. Gallai aelodau staff eraill eu gweld hefyd i’n helpu i gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol.

Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Efallai y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn hefyd. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Mae hyn yn helpu i ddangos y cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn briodol. Os nad ydych am i’ch enw neu’ch cyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni’n ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Yna, byddwn yn eu cuddio.

Mae’n bosibl y bydd enwau neu gyfeiriadau rydym yn eu cuddio yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach o hyd, ond nid ydym yn credu y byddai hynny’n digwydd yn aml iawn. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru.  Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth nad yw wedi’i chyhoeddi.

Mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth yn ôl mewn rhai amgylchiadau. Os bydd unrhyw un yn gofyn am gael gweld gwybodaeth a gadwyd yn ôl gennym, bydd angen i ni benderfynu a fyddwn yn ei chyhoeddi ai peidio. Os bydd rhywun wedi gofyn i ni beidio â chyhoeddi ei enw a chyfeiriad, mae hynny’n ffaith bwysig y byddem yn ei hystyried. Weithiau, gallai fod rhesymau pwysig pam y byddai’n rhaid i ni ddatgelu enw a chyfeiriad rhywun, hyd yn oed os bydd wedi gofyn i ni beidio â’u cyhoeddi. Byddem yn cysylltu â’r unigolyn hwnnw ac yn ceisio ei farn cyn penderfynu datgelu’r wybodaeth.
 

T