Screen Reader Mode Icon

Croeso i'r ymgynhoriad 

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae eich adborth yn bwysig.

Am y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain ar ddatblygu’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol. Mae’r safonau wedi’u cydgynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol aml-asiantaeth yn ogystal â grwpiau eraill sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol o’r gwaith.
 
Datblygwyd y safonau oherwydd bod:
 
  • nid oedd unrhyw safonau aml-asiantaeth, cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant diogelu ar waith
  • roedd diffyg cysondeb o ran cynllun, cynnwys a darpariaeth hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru
  • roedd dryswch ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.
 
Bydd y safonau’n helpu sefydliadau i wneud yn siŵr:
 
  • eu bod yn ymgorffori'r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a gweithdrefnau diogelu
  • bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy’n berthnasol i’r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol
  • bod pob ymarferydd yn cael mynediad i Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â nhw.

Rydym wedi rhannu’r safonau yn chwe grŵp (A i F) sy’n adlewyrchu rolau a chyfrifoldebau pobl a allai fod yn gysylltiedig ag arferion diogelu.

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 11:59pm, 17 Mehefin 2022.

T